Welsh Language Music Day 2022 - The Gentle Good

Welsh Language Music Day 2022 – The Gentle Good

Songwriter and multi-instrumentalist Gareth Bonello creates folk music in English and Welsh. Based in Cardiff, his work draws in influences from around the world as far away as China, and Welsh folklore. His  2017 album ‘Ruins‘/’Adfeilion‘ won the Welsh Music Prize.

Are you doing anything for Welsh Language Music Day 2022?
I always tune in to Radio Cymru as they tend to give more of a focus to new music on Welsh Language Music Day, which is so important. It’s a great day for catching up with the scene and discovering new artists, plus there’s usually some live performances and interviews. I usually play a record or two – this year I’ll certainly be listening to Carwyn Ellis & The BBC National Orchestra of Wales amongst a few favourites.

Ydych chi’n gwneud unrhyw beth ar gyfer Dydd Miwsig Cymru 2022?
Dwi wastad yn tiwnio mewn i Radio Cymru gan eu bod yn dueddol o roi mwy o ffocws i gerddoriaeth newydd ar Ddydd Miwsig Cymru, sydd mor bwysig. Mae’n ddiwrnod gwych ar gyfer dal i fyny â’r sîn a darganfod artistiaid newydd, ac fel arfer mae rhai perfformiadau byw a chyfweliadau. Fel arfer rwy’n chwarae record neu ddwy – eleni byddaf yn sicr yn gwrando ar Carwyn Ellis a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ymhlith yr hen ffefrynnau.

What is the first song in the Welsh language you remember, and what does it mean to you?
The first song I think I remember is a nursery rhyme, ‘Mae gen i dipyn o dŷ bach twt’; a simple but beautiful tune that undoubtedly contributed to my lifelong interest in Welsh folk music. I was an 80s kid, so the super talented Caryl Parry Jones was probably the first artist I heard singing pop music in Welsh, a true trailblazer!

Beth yw’r gân gyntaf yn yr iaith Gymraeg rydych chi’n ei chofio, a beth mae’n ei olygu i chi?
Y gân gyntaf dwi’n meddwl dwi’n cofio ydi hwiangerdd, ‘Mae gen i dipyn o dŷ bach twt’; tôn syml ond hardd a gyfrannodd yn sicr at fy niddordeb mewn canu gwerin Cymraeg. Bachgen o’r 80au ydw i, felly mae’n debyg mai’r hynod dalentog Caryl Parry Jones oedd yr artist cyntaf i mi ei chlywed yn canu pop yn Gymraeg, arloeswraig go iawn!

Caryl in the 80s! / Caryl yn yr 80au!

 

Why do you think the day is important, both inside and outside Wales?
Diversity enriches the arts as it does our lives, so language really shouldn’t be a barrier to your enjoyment of music. A reminder too that ‘Welsh language’ isn’t a genre of music, it’s just the language that many artists from across the musical spectrum use to express themselves. Welsh language music isn’t too hard to find, but often overlooked beyond Wales and sadly, even within. It’s great to have a day where we can make a bit of a fuss and encourage people from all over the world to explore the wealth of great music that’s written in Welsh. Despite the dominance of English language music on a global level, here in Wales we have a varied and vibrant musical culture in our own tongue, which is something we should be proud of. We should share it with the world!  

Pam ydych chi’n meddwl bod DMC yn bwysig, y tu mewn a thu hwnt i Gymru?
Mae amrywiaeth yn cyfoethogi’r celfyddydau fel y mae’n gwneud ein bywydau, felly ni ddylai iaith mewn fod yn rhwystr i’ch mwynhad o gerddoriaeth. Mae’n bwysig hefyd i gofio nad genre o gerddoriaeth yw ‘Cymraeg’, dim ond yr iaith y mae llawer o artistiaid o bob rhan o’r sbectrwm cerddorol yn ei defnyddio i fynegi eu hunain. Nid yw cerddoriaeth Gymraeg yn rhy anodd i ddod o hyd iddi, ond yn aml yn cael ei hanwybyddu y tu hwnt i Gymru a hyd yn oed o fewn, yn anffodus. Mae’n wych cael diwrnod lle gallwn wneud ychydig o ffws ac annog pobl o bob rhan o’r byd i archwilio’r cyfoeth o gerddoriaeth sy’n cael ei ysgrifennu yn Gymraeg. Er gwaethaf goruchafiaeth cerddoriaeth Saesneg ar lefel fyd-eang, yma yng Nghymru mae gennym ddiwylliant cerddorol amrywiol a bywiog yn ein hiaith ein hunain, sy’n rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Dylem ei rannu gyda’r byd!

What is the best venue welcoming Welsh music, and why?
I’m not going to pick a single favourite, as I’m hoping to get back to gigging soon and don’t want to shorten the list of potential bookers (!), but there are some real gems out there. In general, I think venues that book bands according to how they work on a bill rather than what language they sing in are on the right track. Welsh language bands should be rubbing shoulders with contemporaries that perform in English (or any other language for that matter), whether they are a local act or on a world tour. In Wales, venues like Galeri, Clwb Ifor Bach, Pontio, Aberystwyth Arts, Tŷ Pawb, The Moon, Neuadd Ogwen and The Gate are always putting on evenings of fantastic music featuring both languages. We’re also lucky to have so many brilliant small venues such as Tŷ Tawe and Saith Seren that regularly put on evenings to encourage gig goers and Welsh learners to engage with Welsh language culture.

Beth yw’r lleoliad gorau i groesawu cerddoriaeth Gymraeg, a pham?
Dydw i ddim yn mynd i ddewis un ffefryn, gan fy mod yn gobeithio mynd yn ôl i gigio yn fuan a ddim eisiau cwtogi ‘r rhestr (!), ond mae gemau go iawn ar gael. Yn gyffredinol, dwi’n meddwl bod lleoliadau sy’n bwcio bandiau yn ôl sut maen nhw’n gweithio ar bil yn hytrach na pha iaith maen nhw’n canu ynddi ar y trywydd iawn. Dylai bandiau Cymraeg fod yn rhwbio ysgwyddau gyda chyfoedion sy’n perfformio yn Saesneg (neu unrhyw iaith arall o ran hynny), boed yn act leol neu ar daith byd. Yng Nghymru, mae lleoliadau fel Galeri, Clwb Ifor Bach, Pontio, Celfyddydau Aberystwyth, Tŷ Pawb, Y Moon, Neuadd Ogwen a The Gate yn cynnal nosweithiau o gerddoriaeth wych sy’n cynnwys y ddwy iaith. Rydym hefyd yn ffodus bod gennym gymaint o leoliadau bach fel Tŷ Tawe a Saith Seren sy’n cynnal nosweithiau’n rheolaidd i annog mynychwyr gigiau a dysgwyr Cymraeg i ymgysylltu â diwylliant Cymraeg.

What are your top three Welsh Language songs, and why?
This’ll change from moment to moment, but right now;

Hwylio Mewn Cyfog – Cate Le Bon – it’s from one of my favourite Cate Le Bon records ‘Edrych yn llygaid ceffyl benthyg’. There are so many great musicians on this EP, and it sounds like they’ve had a blast making it. Cate and the band gigged in Cardiff a lot in those days so guess I’m getting a bit nostalgic

Tystion  – Byw ar y Briwsion –  a great track from a great album and a reminder that Welsh language music has a long subversive tradition.

Ofni – Cotton Wolf (Feat. Hollie Singer) – Just a great track, the production is totally absorbing and Hollie’s ethereal vocals float beautifully above it all.

Beth yw eich tair cân Gymraeg orau, a pham?
Bydd hyn yn newid o bryd i’w gilydd, ond ar hyn o bryd;

Hwylio Mewn Cyfog – Cate Le Bon –  cân oddi ar un o fy hoff recordiau Cate Le Bon ‘Edrych yn llygaid ceffyl benthyg’. Mae cymaint o gerddorion gwych ar yr EP hwn, ac mae’n swnio fel eu bod wedi cael amser arbennig yn ei recordio hi. Roedd Cate a’r band yn gigio llawer yng Nghaerdydd yn y dyddiau hynny felly efallai fy mod yn mynd braidd yn hiraethus!

Tystion – Byw ar y Briwsion – trac gwych oddi ar albwm wych ac yn ein hatgoffa bod gan gerddoriaeth Gymraeg draddodiad hir o fod yn heriol, radical a gwrth sefydliadol.

Cotton Wolf (Feat. Hollie Singer) – Ofni – Trac gwych, mae’r trefniant a’r cynhyrchiad yn hollol syfrdanol ac mae llais nefolaidd Hollie yn arnofio’n hyfryd uwchben y cerddoriaeth.

Which Welsh albums are you most looking forward to hearing this year?
I am not sure if they’ve got new stuff coming out, but surely it’s time for a new Adwaith record! I know Georgia Ruth has been in the studio and absolutely loved ‘Mai’ so can’t wait to hear what she’s been up to. I’m excited about new records by Carwyn Ellis and by Vrï coming out this year and I’d love to hear another record from Accü (Angharad Van Rijswijk) too.

Dwi ddim yn siŵr os oes ganddyn nhw stwff newydd yn dod allan, ond yn sicr mae’n amser cael record Adwaith newydd! Dwi’n gwybod bod Georgia Ruth wedi bod yn y stiwdio ac wedi gwirioni ar ‘Mai’ felly methu aros i glywed beth mae hi wedi bod yn ei wneud. Dwi’n gyffrous am recordiau newydd gan Carwyn Ellis a gan Vrï sy’n dod allan eleni a byddwn wrth fy modd yn clywed record arall gan Accü (Angharad Van Rijswijk) hefyd.

What do you have coming up in 2022?
I’ve been awarded a year-long fellowship with the Elan Valley Trust and will be spending a lot of time in the beautiful Cwm Elan in Powys. I’ve been there since October and am slowly getting to know the community and the landscape and am using my time to write and record new songs. I’m really looking forward to a return to gigging and will be on tour with two great artists; Samantha Whates and Ida Wenøe this March. I’ve got a lot of new material I’d like to try out on live audiences and the hope is to start releasing new songs very soon.

My Elan Valley Blog – https://elenydd.wordpress.com/

Samantha Whates & Ida Wenøe gig in Cardiff (more TBC) – https://www.facebook.com/events/6824041321003522

Beth sydd gennych ar y gweill yn 2022?
Rwyf wedi derbyn cymrodoriaeth blwyddyn o hyd gydag Ymddiriedolaeth Cwm Elan a byddaf yn treulio llawer o amser yn harddwch Cwm Elan ym Mhowys. Rydw i wedi bod yno ers mis Hydref ac yn dod i adnabod y gymuned a’r dirwedd yn araf bach. Rwy’n defnyddio’r amser i ysgrifennu a recordio caneuon newydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddychwelyd i gigio a byddaf ar daith gyda dwy artist gwych; Samantha Whates ac Ida Wenøe fis Mawrth yma. Mae gen i lawer o ddeunydd newydd hoffwn gyflwyno at gynulleidfaoedd byw, a’r gobaith yw dechrau rhyddhau caneuon newydd yn fuan iawn eleni.

Fy Blog Cwm Elan – https://elenydd.wordpress.com/

Gig Samantha Whates ac Ida Wenøe yng Nghaerdydd (mwy i’w gadarnhau) – https://www.facebook.com/events/6824041321003522

God is in the TV is an online music and culture fanzine founded in Cardiff by the editor Bill Cummings in 2003. GIITTV Bill has developed the site with the aid of a team of sub-editors and writers from across Britain, covering a wide range of music from unsigned and independent artists to major releases.